DDEWISLEN

Ym mis Medi (21ain i 25ain) byddwn yn cynnal ein hail Reithgor Dinasyddion ar ofal cymdeithasol yng Nghymru, y tro hwn fel digwyddiad rhithwir.

Bydd pymtheg aelod o’r cyhoedd yng Nghymru yn ymgynnull ar-lein am bedwar diwrnod i glywed gan amrywiaeth o siaradwyr am eu profiadau o wasanaethau gofal a chymorth, a'u barn amdanynt, a bod yn ofalwr. Yna bydd y pymtheg Rheithiwr hyn yn treulio'r diwrnod olaf yn dod i gasgliadau ac yn gwneud argymhellion. Cyflwynir y rhain i Lywodraeth Cymru a'u rhannu â rhanddeiliaid, sefydliadau a phobl allweddol ledled Cymru.

Mae creu Rheithgor sy’n cynrychioli’n fras y boblogaeth yng Nghymru yn rhan allweddol o ddull y Rheithgor Dinasyddion gan ei fod yn golygu bod yr argymhellion yn cael eu cynhyrchu gan bobl sydd ag ystod o safbwyntiau, ac yn fwy tebygol o gael eu derbyn.

Ar hyn o bryd mae pobl yn cofrestru eu diddordeb mewn bod yn Rheithiwr (www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020), ac fel rhan o hynny, maent yn darparu ychydig bach o wybodaeth amdanynt eu hunain.

Hoffem Reithgor sydd mor gynrychioliadol o boblogaeth Cymru â phosibl felly byddwn yn defnyddio nifer o newidynnau demograffig a dynnwyd o'r Cyfrifiad a www.statswales.gov megis rhyw, oedran, ethnigrwydd, cyrhaeddiad addysgol, cyflogaeth i ddewis y Rheithgor o'r gronfa o bobl sydd wedi cofrestru eu diddordeb.

Mewn achos annhebygol bod rhywun yr unig berson i fodloni meini prawf penodol, yna fe’u dewisir yn awtomatig. Llenwir yr holl leoedd eraill ar y Rheithgor gan ddefnyddio dull dethol ar hap sy'n dewis o blith pobl sy'n cyfateb i feini prawf penodol. Bydd y broses hon, a elwir yn samplu haenedig, yn ein helpu i greu Rheithgor cynrychioliadol.

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich diddordeb mewn bod yn Rheithiwr yw Gorffennaf 1af, a gwneir y dewis ddechrau mis Gorffennaf gyda phawb yn cael gwybod am y canlyniad erbyn Gorffennaf 14eg.