DDEWISLEN

Ym mis Mawrth gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad terfynol yn ymdrin â gweithgaredd y prosiect, gan gynnwys 65 stori gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth neu sy'n ofalwyr, ein canfyddiadau a'n hargymhellion allweddol. Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Ers hynny rydym wedi derbyn cyllid pellach i barhau gyda MtM tan fis Hydref 2020.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:

'Rwy’n croesawu canfyddiadau ac argymhellion cam un y prosiect Mesur y Mynydd, maent yn eang eu cwmpas ac yn ymdrin â nifer o feysydd arwyddocaol a phwysig y mae angen i’r sector gofal cymdeithasol cyfan yng Nghymru eu hystyried.

Mae'r adroddiad hwn yn bwysig i'r sector cyfan, gan gynnwys y llywodraeth, awdurdodau lleol, y trydydd sector ac ymarferwyr. Rwyf am i'r sector berchenogi’r argymhellion a bwrw ymlaen â hwy er mwyn sicrhau, wrth i'r newidiadau a fynnir gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 barhau i gael eu hymgorffori i mewn i ymarfer, bod y canfyddiadau a nodir yn yr adroddiad yn cael eu defnyddio’n weithredol i lywio'r newidiadau hyn.

Rhaid i'r momentwm cadarnhaol sydd wedi'i greu o'r prosiect hwn barhau ac am y rheswm hwn rwyf wedi cytuno i ariannu Mesur y Mynydd am 18 mis arall. Bydd cam nesaf y prosiect yn caniatáu inni gael mewnwelediad a dealltwriaeth bellach i helpu i arwain y sector tuag at wella. Yn hanfodol, bydd y prosiect yn ehangu ar y gwaith rhagorol a wnaed yn 2018/19 a bydd yn archwilio ymhellach y bylchau a nodwyd yng ngham un.

Mae prosiectau o'r math hwn yn hanfodol ac yn rhoi cyfle i fyfyrio ar yr hyn yr ydym yn ei gyflawni ar hyn o bryd a sut y gallwn ddatblygu ymhellach - ac, yn bwysicaf oll, sut y gallwn sicrhau bod pawb sy'n cyrchu gofal a chymorth yng Nghymru yn gallu cyflawni'r canlyniadau llesiant sydd bwysicaf iddyn nhw'.


Trwy gydol gweddill 2019 a than 31ain Mai  2020 byddwn yn casglu profiadau pellach gan bobl ynglŷn â defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth neu o fod yn ofalwr, ac ym mis Mai 2020 byddwn yn cynnal ail Reithgor Dinasyddion i archwilio pwnc allweddol yn fanwl.

Os oes gennych chi storïau i'w rhannu, neu os ydych chi'n adnabod eraill sy'n gwneud hynny, cysylltwch â ni. Os hoffech wybod mwy am y Rheithgor a sut i gymryd rhan, e-bostiwch Katie - Katie.cooke@southwales.ac.uk

Am yr holl newyddion a diweddariadau diweddaraf dilynwch ni ar Trydar - @mtmwales