DDEWISLEN


Ym mis Medi, bydd Mesur y Mynydd (MtM) yn cynnal ei ail Reithgor Dinasyddion. Y tro hwn bydd yn ddigwyddiad rhithwir! Yn cymryd lle rhwng yr 21ain a'r 25ain o Fedi, byddwn yn dod â 15 aelod o'r cyhoedd ynghyd i drafod agweddau allweddol ar ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth ac o fod yn ofalwr yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn tynnu sylw at realiti profiadau bob dydd pobl ac yn arddangos arfer gorau a dulliau arloesol sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.


Cyflwynir gwybodaeth i reithwyr mewn fideos gan siaradwyr a thrwy gyflwyniadau a byddant yn cael cyfleoedd i ofyn cwestiynau ac archwilio pynciau'n fanwl. Ar y diwrnod olaf byddant yn gwneud cyfres o argymhellion a fydd yn cael eu cyhoeddi a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru.


Rydym yn recriwtio ar hyn o bryd ar gyfer Rheithwyr.

I ddarganfod mwy am y cyfle cyffrous hwn ac i gofrestru'ch diddordeb ewch i www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020.

Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i fod yn Rheithiwr: Gorffennaf 1af 2020
Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn Gorffennaf 14eg.