DDEWISLEN

Gwneud yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ym maes goal cymdeithasol yng Nghymru- sut allwn ni wneud iddo ddigwydd gyda'n gilydd?

Cynhaliodd Mesur y Mynydd ddau Reithgor Dinasyddion - un ym mis Medi 2018 fel digwyddiad personol ac un ym mis Medi 2020 fel digwyddiad ar-lein. Edrychodd yr un cyntaf ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol, a symudodd yr ail y drafodaeth ymlaen i edrych ar sut y gallwn wneud i hynny ddigwydd gyda'n gilydd.

Daeth y ddau Reithgor â 14 aelod o’r cyhoedd ynghyd (gwahanol grwpiau bob tro) i wrando ar wybodaeth gan gyfres o siaradwyr arbenigol, ac ar ddiwedd y broses fe wnaethant gynhyrchu nifer o argymhellion - 15 yn 2018, ac 16 yn 2020. Gallwch ddarllen mwy am y ddau ddigwyddiad isod.

Mae Rheithgorau Dinasyddion yn ddull sefydledig o gynnwys y cyhoedd mewn dadl polisi a gwneud penderfyniadau (mae Dr Rachel Iredale, ein Prif Ymchwilydd yn egluro popeth yn y fideo hwn). Mae gwaith ein Rheithwyr anhygoel yn y ddau ddigwyddiad yn dangos gwerth enfawr ymgysylltu'n ystyrlon â phobl ac o gymryd yr amser i weithio gyda phobl i wir glywed a deall eu barn.

Gallwch wylio pob un o'r sesiynau o Reithgor Dinasyddion 2020 ar ein sianel YouTube.
 

Rheithgor Dinasyddion 2018

Citizens' jury

Fe wnaethom redeg ein Rheithgor Dinasyddion cyntaf yn 2018, gan edrych ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol. Treuliodd ein Rheithwyr dri diwrnod yn gwrando ar wybodaeth gan 22 o siaradwyr, yn gofyn cwestiynau iddynt a mynd at galon materion yn wirioneddol.

Roedd y rhaglen a luniwyd gennym yn adlewyrchu themâu a materion allweddol a oedd wedi codi o gam casglu storïau’r prosiect. Amlygodd arfer enghreifftiol a rhoddodd gyfle hefyd i'r Rheithwyr ddysgu mwy am brofiadau beunyddiol pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, a'r rhai sy'n ofalwyr di-dâl.

Ar y diwrnod olaf nododd ein Rheithwyr gyfres o 15 argymhelliad yr oeddent am eu gwneud. Roedd y rhain yn ymwneud ag agweddau hanfodol ar ddarparu gofal cymdeithasol gan gynnwys rhwyddineb mynediad at wybodaeth, cymorth da i ofalwyr di-dâl, gwell cymorth i weithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol a phrosesau comisiynu.

Cyflwynwyd yr argymhellion hyn i Lywodraeth Cymru a derbyniwyd 14 o'r 15 gan dderbyn y 15fed yn rhannol (gweler isod).

Rheithgor Dinasyddion 2020

Citizens' jury

*** Ewch i'n sianel YouTube i wylio'r sesiynau yn llawn ***

Adeiladodd Rheithgor Dinasyddion 2020 ar y gwaith o 2018, a symudodd y drafodaeth ymlaen i edrych ar sut y gall yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol ddigwydd. Roedd y rhaglen yn cynnwys ystod amrywiol o siaradwyr ac mae'r sesiynau'n gyfle anhygoel i ddysgu mwy am:

• Gwasanaethau arloesol - sut y gwnaethant ddigwydd a pham eu bod yn gweithio.
• Sut ymatebodd gwahanol sefydliadau i'r pandemig.
• Sut beth yw bywyd o ddydd i ddydd i bobl sy'n ofalwyr di-dâl ac i'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth.
• Blaenoriaethau'r cyhoedd wrth i'r Rheithwyr ofyn cwestiynau a mynd at wraidd materion.

Ar y diwrnod olaf, cynhyrchodd ein Rheithwyr 15 argymhelliad sy'n cynnwys sefydlu Comisiynydd Pobl Anabl, creu tasglu i archwilio Incwm Sylfaenol Cyffredinol a gwella cynrychiolaeth o ofal cymdeithasol ar bob lefel.

Beth nesaf?

Time credits

Cyflwynwyd yr adroddiad o Reithgor Dinasyddion 2020 i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2020 a rhagwelir ymateb ffurfiol i'r gwaith hwn yn haf 2021.

Gellir gwylio’r holl sesiynau o'r Rheithgor ar ein sianel YouTube. Maent yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth, syniadau a thrafodaeth - rhannwch nhw a defnyddiwch nhw yn eich gwaith eich hun.

Ochr yn ochr â'r sesiynau hyn ceir y 15 argymhelliad a wnaed gan y Rheithwyr sy'n amlinellu blaenoriaethau allweddol, fel y nodwyd ganddynt, yn rhinwedd eu swydd fel grŵp o ddinasyddion cynrychioliadol o Gymru.

Ein gobaith yw y bydd sefydliadau'n cymryd ysbrydoliaeth o'r argymhellion hyn ac yn dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu eu harferion i gefnogi mwy a mwy o bobl sy'n ofalwyr di-dâl, ac sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, i gael profiadau cadarnhaol.

 
Organisations

Beth sydd wir o bwys mewn gofal cymdeithasol i unigolion yng Nghymru?

Ym mis Medi 2018 cynhyrchodd ein Rheithwyr 15 o argymhellion fel rhan o'u hymateb i'r cwestiwn hwn. Roedd yr argymhellion yn seiliedig ar y wybodaeth a rannwyd gyda nhw dros dri diwrnod gan amrywiaeth o unigolion o bob rhan o'r sector gofal cymdeithasol.

Roedd eu hargymhellion yn cynnwys y dylai pobl sy'n dod at y system gofal cymdeithasol dderbyn cefnogaeth gan weithiwr allweddol diduedd, sydd wedi'i hyfforddi'n dda ac sy'n wybodus; bod rhaid cydnabod, cefnogi a gwerthfawrogi gofalwyr fel yr asedau hanfodol y maent; bod angen diffinio a sefydlu cyd-gynhyrchu fel arfer y mae pawb yn ei ddeall ac y dylai cyrff statudol ddarparu gwybodaeth glir am eu gwasanaethau y gall unrhyw un eu deall.

Gwnaethant hefyd argymhellion am dechnoleg, prosesau tendro a chomisiynu a mwy o gydnabyddiaeth i weithwyr rheng flaen.  Ym mis Ionawr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu hymateb ffurfiol i'r argymhellion hyn, gan dderbyn 14 allan o'r 15, a derbyn y 15fed yn rhannol.