DDEWISLEN

Ym mis Medi, bydd ein pymtheg Rheithiwr yn ymgynnull ar-lein ac yn treulio pum niwrnod yn datblygu ymateb i'r cwestiwn, gwneud yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru - sut mae gwneud iddo ddigwydd gyda'n gilydd?


Dros y pedwar diwrnod cyntaf byddant yn clywed gan gyfres o siaradwyr sydd â phrofiad o ddarparu, datblygu a defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth ledled Cymru. Bydd y siaradwyr yn rhoi cyflwyniadau byr ac yna bydd ein Rheithwyr yn gofyn cwestiynau iddynt. Ar y pumed diwrnod, bydd ein Rheithwyr yn llunio rhestr o argymhellion a gyflwynir i Lywodraeth Cymru a'u rhannu'n gyhoeddus.

Elfen hanfodol o'r broses hon fydd clywed gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth neu sy'n ofalwyr di-dâl sy'n gofalu am ffrind, anwylyd neu gymydog. Bydd profiadau beunyddiol unigolion a theuluoedd ledled Cymru yn hanfodol i helpu i lunio dealltwriaeth ein Rheithwyr o’r ‘hyn sy’n bwysig’ a sut y gellir cyflawni mwy o hynny.

Rydym yn chwilio am bobl i wneud fideos byr sy’n cipio diwrnod yn eu bywyd. Gall y fideos ganolbwyntio ar unrhyw agwedd ar y diwrnod. Dim ond munud neu ddwy o ran hyd sydd angen iddyn nhw fod (heb fod yn hwy na 10 munud) a gellir eu ffilmio ar ffôn. Rydyn ni wedi gwneud ein fideo byr ein hunain i ddangos i chi beth rydyn ni'n ei olygu - gallwch chi ei wylio yma.

Mae gennym ddiddordeb mawr mewn gwybod mwy am brofiadau o ddydd i ddydd a'r pethau sy'n gwneud bywyd yn haws neu'n anoddach. Nid oes raid i chi ddefnyddio gwasanaethau cymdeithasol, nac unrhyw gymorth ffurfiol - efallai eich bod chi'n rhan o grŵp cymunedol, neu fod eich ffrindiau a'ch teulu'n helpu pan fydd ei angen arnoch chi. Efallai eich bod yn ofalwr di-dâl sy'n gofalu am rywun annwyl ac nad oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch, neu dim ond o bryd i'w gilydd. Neu efallai bod gennych becyn gofal cynhwysfawr gyda chefnogaeth trwy gydol y dydd. Byddem wrth ein bodd yn cael gwybod am yr holl brofiadau hyn!

Byddai’n hynod ddefnyddiol i'n Rheithwyr wybod am gynifer o wahanol brofiadau â phosib. Maent i gyd yn unigryw, a bydd gwybod mwy am yr hyn sy'n gwneud pethau'n haws neu'n anoddach yn helpu ein Rheithwyr i nodi argymhellion yr hoffent eu gwneud ar ddiwedd y broses.

Bydd y fideos yn ffordd wych o ddod â'r mathau o brofiadau rydyn ni'n gwybod bod pobl yn eu cael bob dydd yn fyw. Byddant yn adlewyrchu llawer o'r themâu a'r syniadau a ddaeth o'r storïau y mae pobl eisoes wedi'u rhannu â ni, a byddant yn helpu ein Rheithwyr i archwilio'r hyn sy'n bwysig i bobl a pha bethau sy'n gwneud gwahaniaeth.

Gallwch ddarganfod mwy am y Rheithgor Dinasyddion a’r fideos ar www.mtm.wales/citizens-jury-2020 neu drwy gysylltu â Katie – Katie.cooke@southwales.ac.uk

Dilynwch ni ar Trydar a Facebook i gael yr holl newyddion a diweddariadau diweddaraf.