DDEWISLEN

Y storiau

Dros ddau gam Mesur y Mynydd fe wnaethom gasglu bron i 1000 o storïau am brofiadau pobl o fod yn ofalwr di-dâl neu o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru. Mae'r storïau yn tynnu sylw at ehangder profiadau pobl o ddydd i ddydd ac yn dal profiadau anhygoel o gadarnhaol, yn ogystal â rhai gwael iawn. Mae'r storïau’n rhoi cipluniau o fywydau pobl ac, gyda'i gilydd, yn dangos gwerth diamwys rhyngweithiadau dynol cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth, parch, cyd-ddealltwriaeth a chydbwysedd pŵer ystyrlon.

Gan bwy y clywsom

Citizens' jury

Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2018 fe gasglon ni 473 o storïau gan bobl ledled Cymru; a rhwng Awst 2019 a Mai 2020 fe gasglon ni 520 o storïau.

Casglwyd y storïau gan ddefnyddio SenseMaker ac roeddent yn canolbwyntio ar brofiadau byw, unigol pobl. Dewisodd pobl y stori yr oeddent am ei rhannu gyda'r prosiect ac yna fe wnaethant ymateb i gwestiynau i ychwanegu mwy o fanylion a chyd-destun (gallwch weld y fframwaith yma).

Yn 2019/2020 clywodd y prosiect gan bobl rhwng 12 a 99 oed o bob cwr o'r wlad. Casglwyd llawer o'r storïau gan rywun o'r prosiect yn mynychu grwpiau cymunedol a digwyddiadau i siarad â phobl am y prosiect a chlywed eu storïau. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y dulliau samplu yn yr adroddiad.

Beth wnaethon ni ddarganfod

Citizens' jury

Mae'r storïau’n datgelu ystod anhygoel ym mhrofiadau pobl ac yn tynnu sylw at gymhlethdod bywydau llawer o bobl yn ogystal ag ymdrechion enfawr pobl i gefnogi aelod o'r teulu, ffrind neu anwylyd.

Dengys llawer o'r storïau bwysigrwydd perthnasoedd da a rhyngweithio meddylgar rhwng pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a phobl sy'n darparu gwasanaethau. Gwelwyd bod meithrin ymddiriedaeth, creu rhwydweithiau cymorth a sefydlu perthnasoedd â chydbwysedd pŵer yn cyfrannu at brofiadau cadarnhaol a chanlyniadau da.

O'r storïau, daeth themâu allweddol i'r amlwg am yr ymdrechion a ymgymerwyd gan ofalwyr di-dâl, y materion a all godi pan fydd angen i bobl symud rhwng gwasanaethau neu weithio gyda sawl darparwr, a'r rôl anhygoel o werthfawr y mae grwpiau cymunedol a chysylltiadau yn ei chwarae i bobl

Beth nesaf? 

Time credits

Rydym wedi llanlwytho cronfa ddata o fwy na 450 o storïau a gasglwyd yn ystod y gwaith a gynhaliwyd yn 2019/2020. Mae'r storïau hyn yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth ac yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i fywydau pobl a phrofiadau o ddydd i ddydd.

Gobeithiwn y bydd y storïau yn adnodd defnyddiol i bobl sy'n gweithio yn y sector gofal a chymorth, pobl sy'n dylunio a darparu gwasanaethau, a'r rhai sy'n ymgymryd ag ymchwil neu'n ceisio sicrhau newid a gwelliannau.

Ewch i'r dudalen Adnoddau i gael ein holl adroddiadau a deunyddiau prosiect. Edrychwch ar y dudalen Rheithgorau Dinasyddion i ddysgu am yr argymhellion a wnaed gan ein Rheithwyr ac ymweld â'n sianel YouTube i wylio'r sesiynau Rheithgor a dysgu mwy am yr hyn sy'n bwysig i bobl yng Nghymru ym maes gofal cymdeithasol.