DDEWISLEN

Ar Ragfyr 4ydd 2020, cyfarfu’r Rheithwyr o Reithgor Dinasyddion Ar-lein Mesur y Mynydd gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan MS i sgwrsio am y Rheithgor, eu cyfranogiad a’r argymhellion a wnaed.

Roedd y digwyddiad yn sesiwn gaeedig a alluogodd y Rheithwyr a’r Dirprwy Weinidog i siarad mwy am yr hyn yr oedd yn ei olygu i fod yn rhan o broses megis Rheithgor Dinasyddion, yr hyn a ddysgon nhw a sut y daeth yr argymhellion i fodolaeth.

Roedd yn gyfle gwych i siarad mwy am fanteision cynnwys pobl mewn trafodaethau llunio polisi ac edrych yn fanylach ar yr effaith y gallai rhai o'r argymhellion ei chael pe byddent yn cael eu gweithredu.

Am ail ran y bore, ar ôl i’r Dirprwy Weinidog ffarwelio, ymunodd aelodau o Grŵp Llywio MtM â’r Rheithwyr i drafod ymhellach yr argymhellion a gwaith y Rheithgor. Roedd yn fan cychwyn gwych i edrych yn fwy manwl ar weithredu'r argymhellion a thrafod sut y gellir sicrhau newid cadarnhaol wrth ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth yng Nghymru.

Mae’r argymhellion a wnaed gan y Rheithwyr yn cynnwys sefydlu Comisiynydd Pobl Anabl, creu tasglu i edrych ar Incwm Sylfaenol Cyffredinol, sicrhau cynrychiolaeth well ar draws y sector gofal a chymorth a gwella cydnabyddiaeth, a chefnogaeth i, ofalwyr di-dâl.

Gyda'i gilydd maent yn darlunio blaenoriaethau craidd ac ystod o ffyrdd i sicrhau newid cadarnhaol.

Darllenwch yr adroddiad llawn gan y Rheithgor yn www.mym.cymru/y-rheithgorau-dinasyddion