Ym mis Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu hymateb ffurfiol i’r argymhellion a wnaed gan Mesur y Mynydd yn 2019, gan dderbyn 30 o’n 31 o argymhellion a derbyn y 31ain yn rhannol. Mae hwn yn ardystiad aruthrol o'r gwaith a'r cyfraniadau anhygoel a wnaed gan ein Rheithwyr a chan bawb a rannodd straeon gyda'r prosiect.
Gallwch ddod o hyd i'r ymateb llawn yma – https://llyw.cymru/gwerthuso-profiadau-pobl-o-dderbyn-gwasanaethau-gofal-cymdeithasol
A gwelir y datganiad ysgrifenedig sy'n cyd-fynd yma - https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-ymateb-ffurfiol-ir-argymhellion-wnaed-gan-y-prosiect-mesur-y-mynydd
Roedd ein hargymhellion yn cynnwys 15 a wnaed gan y Rheithgor Dinasyddion ac 16 a wnaed yn yr adroddiad terfynol, yn ymwneud â chanfyddiadau’r storïau - gallwch ddarllen yr adroddiadau llawn yma - www.mym.cymru/adnoddau
Mae'r ymateb yn cydnabod:
‘… nad yw gofynion Deddf 2014 a’r Cod Ymarfer ategol yn cyrraedd y bobl sydd angen gofal a chymorth a’r gofalwyr sydd angen cymorth bob amser’ (t.22).
Ac mae’n amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â sefydliadau a chyrff allweddol yn y sector gofal cymdeithasol wedi'u cymryd, neu'n eu cymryd, i wella profiadau pobl o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth neu o fod yn ofalwr.
Fel y nodwyd gan Julie Morgan AC, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn y datganiad ysgrifenedig:
‘Rwyf am i’r sector cyfan fod yn berchen ar yr argymhellion hyn a bwrw ymlaen â hwy er mwyn sicrhau, bod y newidiadau y mae’r Ddeddf yn mynnu yn parhau i gael eu hymgorffori yn ymarferol, bod y canfyddiadau a nodir yn yr adroddiad yn llywio’r gwelliannau hyn yn weithredol.’
Wrth i Mesur y Mynydd symud ymlaen trwy ei ail gam, gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed trwy rannu eich profiadau o ddefnyddio gwasanaethau gofal a chymorth, neu o fod yn ofalwr – www.mym.cymru/rhannu-stori; neu trwy gofrestru i fod yn un o Reithwyr eleni - www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020.